Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys wedi penodi dau aelod newydd o staff i ehangu'r ffordd y gall yr Asiantaeth helpu pobl hyn yng Nghymru i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Mae'r Asiantaeth wedi penodi trydydd "Crefftwr". Penodwyd Dave Buchan, a arferai fod yn gontractwr adeiladu hunangyflogedig, i wneud addasiadau sy'n atal pobl rhag llithro, baglu a syrthio o amgylch y cartref.
Penodwyd Gweithiwr Achos newydd fydd yn gweithredu yng Ngogledd Powys hefyd. Bydd Tracy Jones yn gyfrifol am gyflwyno "Gwasanaeth Cartref Iach", gwasanaeth ymweld â chartrefi sy'n asesu ac yn cynghori ar ddiogelwch cartrefi sydd ar gael i berchnogion cartref a thenantiaid preifat dros 60 mlwydd oed yn byw ym Mhowys. Arferai Tracy weithio fel Gweithiwr Achos i Gofal a Thrwsio yn Coventry ac mae newydd symud i'r ardal.
Dywedodd Debbie Brooks, Arweinydd Tîm yr Asiantaeth: "Rydym yn hynod falch i groesawu Dave a Tracy i'r Asiantaeth i gynyddu ein gwaith". Ychwanegodd, "Mae atal pobl rhag llithro, baglu a syrthio yn gostwng y nifer sy'n gorfod mynd i ysbyty ac yn galluogi pobl i ddychwelyd adref yn ddiogel o'r ysbyty a dileu'r angen am ofal tymor byr. Gall addasiadau syml i gartrefi pobl, megis canllaw bach, yn aml wneud gwahaniaeth enfawr".
Caiff yr Asiantaeth ei chyllido gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chymdeithas Tai Canolbarth Cymru.
Os byddai cartref mwy diogel o fudd i chi neu unrhyw un yr ydych yn ei adnabod, cysylltwch â Gofal a Thrwsio ym Mhowys ar 0300 111 333 neu enquiries@crpowys.co.uk a gofyn am y Gwasanaeth Cartrefi Iach.
More stories