Gwyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed
Cynhelir Gwyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed ar ddydd Sadwrn 7fed o Hydref yn nhref Aberhonddu. Disgwylir y bydd dros 1000 o bobl yn mynychu ar y diwrnod.
Mae gwahoddiad i fusnesau, cwmnïau a mudiadau lleol osod stondin ar ddiwedd gorymdaith i werthu ac arddangos nwyddau. Bydd modd archebu safle drwy e-bostio ruth@urdd.org (cyn 30 mis medi). Ni fydd tal am osod stondin ond bydd gofyn i chi ddod a bwrdd a chadair eich hun. Noder mai cyfyngedig yw’r nifer o stondinau gallwn eu gosod felly cyntaf i’r felin yw’r drefn o archebu safle.
Byddai’n golygu gosod eich stondin erbyn 11 o’r gloch ar ddydd Sadwrn a bydd gweithgareddau yn dod i ben erbyn 3 o’r gloch y prynhawn. Ni fydd modd gwerthu unrhyw gynnyrch bwyd heb gyflwyno tystysgrif glendid bwyd priodol.
Manylion pellach oddiwrth ruth@urdd.org
More stories