Nod y digwyddiad rhad ac am ddim hwn yw hybu ac annog pobl hyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau sydd ar gael ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Cynigir ystod eang o stondinau gwybodaeth, arddangosiadau a gweithgareddau blasu y gall pawb roi cynnig arnynt.Bydd te a chacen ar gael ar ganol y bore ac mae Freedom Leisure yn cynnig dewis o ginio mwy iachus am bris gostyngol yn y caffi. Bydd yn gyfle i gael hwyl, rhoi cynnig ar weithgareddau newydd a chwrdd â phobl wahanol, felly beth am ddod draw i gael tro!
More stories