Cystadleuaeth Celf Tir – Ras Feicio ‘Tour of Britain’ – Cymal Cymru, dydd Sul 2 Medi 2018
Mae trefnwyr Ras Feicio ‘Tour of Britain’ OVO Energy yn trefnu cystadleuaeth i chwilio am y celf tir gorau a mwyaf trawiadol ar hyd llwybr y ras eleni.
Mae grwpiau cymunedol, ysgolion, busnesau a thirfeddianwyr yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y gystadleuaeth a byddai’n braf gweld darnau celf ar dir Powys yn cael eu darlledu’n fyw ar ITV4 wrth iddynt ffilmio’r ras – a hyd yn oed ennill y gystadleuaeth!
“Mae’n bleser ychwanegu’r gystadleuaeth celf tir at ffyrdd y gall cymunedau ar draws y wlad fod yn rhan o’r ras ym mis Medi”, dywedodd Cyfarwyddwr Ras ‘Tour of Britain’ OVO Energy, Mick Bennett.
“Yn ystod cymal Swydd Nottingham yn benodol, fe welsom enghreifftiau gwych o gelf tir gan grwpiau cymunedol, ac mae hyn wedi’n hysbrydoli ni i annog pobl ar hyd llwybr cyfan y ras eleni i ddangos eu cefnogaeth ac i fod yn greadigol.”
Bydd yr enillydd yn derbyn tlws a gwobrau i gofio am y ‘Tour of Britain’, gyda gwobrau i’r rhai sydd yn cipio’r ail a’r drydedd wobr hefyd.
Eleni, bydd cymal cyntaf y ras eleni yng Nghymru yn mynd o Ben-bre i Gasnewydd, gan ddod i Bowys ar hyd yr A40, ychydig cyn Halfway. Bydd yn mynd tua Threcastell, Pontsenni ar hyd yr A4215 i Ddefynnog ac yna ar hyd yr A470 trwy Libanus ac ymlaen i Aberhonddu gan ddilyn y B4601. Bydd y ras yn gadael Aberhonddu ac yna ymlaen ar hyd y B4558 i Bencelli, Talybont a Llangynidr ac yna ar hyd yr A4077 Ffawyddog tua’r Fenni.
Gallwch weld y manylion llawn ar www.tourofbritain.co.uk/stages/stage-one
Os hoffech chi neu’r grwp gymryd rhan, ewch i
www.tourofbritain.co.uk/land-art am rai awgrymiadau a chyngor defnyddiol i’ch helpu chi fod yn greadigol.
Bydd angen anfon gwybodaeth lawn ar unrhyw ddarnau celf trwy e-bost i media@thetour.co.uk erbyn 5 pm, dydd Gwener 24 Awst 2018.
More stories