Dyma gyfle cyffrous i ddarparu gwasanaethau i Rwydwaith Treftadaeth a Diwylliant Aberhonddu/Brecon Heritage & Cultural Network (BHCN). Mae’r rhwydwaith wedi datblygu menter gydweithredol ddigidol Stori Aberhonddu, er mwyn codi ymwybyddiaeth o dreftadaeth gyfoethog y dref a’i bywyd artistig a diwylliannol bywiog.
Yn dilyn ceisiadau llwyddiannus am grantiau oddi wrth Gyngor Tref Aberhonddu a Chronfa Ddatblygu Cynaliadwy Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae Rhwydwaith Treftadaeth a Diwylliant Aberhonddu yn dymuno llunio cytundeb ar gyfer darparu Gwasanaethau Aelodaeth a Marchnata Digidol
Bydd yr ymgymerwr llwyddiannus yn medru dangos bod ganddi/ganddo:
• brofiad helaeth o ddatblygu a gwireddu deunyddiau marchnata a chyfathrebu sy’n defnyddio ystod eang o lwyfannau digidol
• brofiad wedi ei gofnodi dros amser o weithio gyda, a datblygu mudiadau aelodaeth
• brofiad o wireddu prosiectau partneriaeth wedi eu cyllido gan grantiau
Am wybodaeth bellach ynghylch y broses gaffael, anfonwch eich ymholiad trwy e-bost at: bhcnoffice@gmail.com gan gyfeirio at ‘Y Cytundeb darparu Gwasanaethau Aelodaeth a Marchnata Digidol’ yn y llinell pwnc.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Gwener 28 Awst 2020.
More stories