Mae nifer y plant sy’n cyrraedd y DU ar ben eu hunain i geisio lloches yn parhau i dyfu, ac yma ym Mhowys rydym am wneud ein rhan i ddod o hyd i gartrefi diogel a chariadus i groesawu'r plant a'r bobl ifanc hynny sy'n agored i niwed ac sydd wedi'u dal yn yr argyfwng dyngarol hwn.
Os ydych chi erioed wedi gwylio'r newyddion ac wedi meddwl tybed beth allwch chi ei wneud i helpu, hoffai MaethuCymruPowys glywed gennych. Mae’r Gwasanaeth angen unigolion, cyplau a theuluoedd sy'n barod i groesawu'r plant sy'n cyrraedd ein sir heb eu teuluoedd nac unrhyw un i'w hamddiffyn a gofalu amdanynt.
I gael gwybod mwy am gyfleoedd maethu ym Mhowys, gan gynnwys dod yn ofalwr i blentyn sydd ar ben ei hunan anfonwch e-bost fostering@powys.gov.uk neu ffoniwch 0800 22 30 627
More stories