Criw Celf South Powys is a visual arts project for young people with a special interest and talent in art.
The project boosts students’ artistic skills and knowledge and encourages creative careers. We introduce students to professional artists, makers and designers through inspirational workshops, studio and gallery visits, exploring different approaches to art and design.
Programme for Criw Celf 15-19yrs – Monday 30th July – Friday 3rd August
Monday 30th July: Jenny Cashmore is an artist working across a range of mediums making site specific and site responsive works. Thinking about: #place #people #colours #experience #environment #performance #collaboration we will respond to the local environment (Mon and Brec. Canal, River Usk, Table Mountain). Wear clothing suitable for walking and being playful outside. Peak Studio, Crickhowell (10am-4pm)
Tuesday 31st July: Swansea-based visual artist Keith Bayliss will be delivering a drawing and painting workshop, workshopping ideas of gestural mark making and creating large scale works on paper. Peak studio, Crickhowell. (10am-4pm)
Wednesday 1st August: Digital artist Lauren Heckler will be introducing students to ‘Foley art’, exploring sonic art and digital technologies. Peak studio, Crickhowell.(10am-4pm)
Thursday 2nd August: Ceramicist Zoe Preece will be working with students to develop their own hand built clay vessels, with surfaces decorated using coloured slips and sgraffito techniques – whilst exploring themes of ‘still life’ and ‘the every day’. Peak Studio, Crickhowell. (10am-4pm)
Friday 3rd August: Gallery trip to Bristol supported by artist Tessa Waite – (exact details tbc)
£35 per student for the whole course, includes all materials and transport for the gallery trip. This fee can be discretely waived if necessary.
Places are limited, and booking is essential. We ask that participants who wish to be involved should commit to all the workshop sessions in their age group to get the most from the project.
For more information about Criw Celf or to register for 2018 delivery contact:
Rachel Dunlop, Participation Manager
rachel@peak.cymru / 01873 811579
Peak Crickhowell is delivering the project in South Powys while Oriel Davies Gallery, Newtown is delivering in the north of the county.
Criw Celf South Powys is funded by the Arts Council of Wales and Powys County Council and is part of the national Criw Celf initiative.
Photography credit: Sion Marshall Waters
-----------
Mae Criw Celf de Powys yn brosiect celfyddyd gweledol ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb arbennig a dawn ym maes celf.
Mae’r prosiect yn rhoi hwb i fedrau a gwybodaeth artistig y myfyrwyr ac yn eu hannog i ddilyn gyrfa greadigol. Rydym yn cyflwyno myfyrwyr i artistiaid, gwneuthurwyr a chynllunwyr proffesiynol trwy weithdai ysbrydolgar ac ymweliadau ag orielau ac â stiwdio er mwyn archwilio amrywiol ddynesiadau tuag at gelfyddyd a chynllunio.
Rhaglen ar gyfer Criw Celf 15-19mlwydd oed – Llun 30ain Gorffennaf – Gwener 3ydd Awst
Llun 30ain Gorffennaf: Mae Jenny Cashmore yn artist sy’n gweithio ar draws ystod eang o gyfryngau gan lunio gweithiau penodol ar gyfer lleoliadau a rhai sy’n ymateb i’w safle. Gan feddwl am: #lle #pobl #lliwiau #profiad #amgylchedd #perfformiad #cydweithio byddwn yn ymateb i’n hamgylchedd lleol (Camlas Brycheiniog a Mynwy, Yr Afon Wysg, Table Mountain). Gwisgwch ddillad addas ar gyfer cerdded a bod yn chwareus yn yr awyr agored. Stiwdio Peak, Crucywel (10am-4pm)
Mawrth 31ain Gorffennaf: Bydd yr artist gweledol o Abertawe Keith Bayliss
yn cynnal gweithdy ar arlunio a pheintio, gan drafod syniadau yn deillio o farciau ystum a chreu gweithiau ar raddfa fawr ar bapur. Stiwdio Peak, Crucywel (10am-4pm)
Mercher 1af Awst: Bydd yr artist digidol Lauren Heckler yn cyflwyno myfyrwyr i ‘Foley art’, a fydd yn archwilio technolegau sain a digidol. Stiwdio Peak, Crucywel (10am-4pm)
Iau 2 Awst: Bydd y lluniwr crochenwaith Zoe Preece
yn gweithio gyda myfyrwyr er mwyn datblygu eu harddull eu hunain wrth lunio crochenwaith eu hunain â llaw ac yna yn addurno’r wyneb â lliwiau llithr a thechnegau ysgythru – ac ar yr un pryd archwilio themâu ‘bywyd llonydd’ a’r ‘bob dydd’. Stiwdio Peak, Crucywel (10am-4pm)
Gwener 3ydd Awst: Taith i Oriel Gelf ym Mryste gyda chefnogaeth Tessa Waite
- (yr union fanylion i’w tefnu)
£35 y myfyriwr ar gyfer y cwrs cyfan (yn cynnwys deunyddiau)
Nifer cyfyngedig o lefydd ar gael! Darperir yr holl ddeunyddiau celf yn ogystal â’r drafnidiaeth ar gyfer yr ymweliadau ag arddangosfeydd. Holwn i’r rhai sy’n dymuno bod yn rhan o’r fenter ymrwymo i bob un o’r sesiynau gweithdy yn eu grwp oedran er mwyn manteisio i’r eithaf ar y prosiect. Gellir hepgor ffioedd y cwrs ar gyfer y rhai hynny sy’n dymuno cymryd rhan ac yn methu talu.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Criw Celf ynteu er mwyn cofrestru ar gyfer y ddarpariaeth yn ystod 2018 cysylltwch â:
Rachel Dunlop, Rheolwr Estyn Allan a Chyfranogi
e: rachel@peak.cymru
t: 01873 811579
Mae Peak Crucywel yn darparu’r prosiect yn ne Powys tra bod Oriel Davies Gallery, Y Drenewydd yn ei ddarparu yng ngogledd y Sir.
Peak Yr Hen Ysgol, Ffordd Aberhonddu, Crucywel, Powys, NP8 1DG.
Ariennir Portffolio gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Powys ac mae’n rhan o fenter genedlaethol Criw Celf.
Llun gan: Sion Marshall Waters
More stories