Dyma gyfle cyffrous i fod ar flaen y gad o ran menter ddigidol newydd gydweithredol yn Aberhonddu a fydd yn darparu dynesiad unedig i godi ymwybyddiaeth o dreftadaeth gyfoethog y dref, a bywiogrwydd ei bywyd artistig a diwylliannol.
Yn dilyn cais llwyddiannus gan Eglwys Gadeiriol Aberhonddu (partner blaen) i raglen Arwain LEADER ym Mhowys, mae dwy swydd yn cael eu creu er mwyn cynorthwyo gyda gwireddu ‘Rhwydwaith Dreftadaeth a Diwylliannol Aberhonddu’.
Rhoelwr Prosiect/Marchnata a fydd:
• Yn reolwr prosiect profiadol gyda chryn record o wireddu prosiectau partneriaeth wedi eu hariannu gan grantiau
• Â phrofiad helaeth o ddatblygu a gwireddu cynlluniau cyfathrebu sy’n defnyddio ystod eang o fformatiau digidol
Gweinyddwr a fydd yn:
• Weinyddwr profiadol o ran gwireddu gweithgarwch marchnata a chyfathrebu sy’n defnyddio ystod eang o fformatiau digidol
• Â phrofiad o weinyddu gwireddu prosiectau a ariennir gan grantiau
Mae’r naill swydd a’r llall ar sail 16 awr yr wythnos (hyblyg) ac am dymor penodedig o 18 mis yn dechrau yn gynnar yn 2019
Am ragor o wybodaeth ynghylch y broses ymgeisio, anfonwch ymholiadau trwy e-bost at: arwainproject@breconcathedral.org.uk gan ddyfynnu ‘Prosiect Arwain’.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 14eg Rhagfyr 2018.
More stories