Prosiect Bywydau Iach
Rydym yn chwilio am ddau Gynorthwyydd Prosiect i ymuno â’n tîm.
Mae hwn yn gyfle am swydd i oedolion ag anabledd dysgu.
Cyflog: £9.27 yr awr, £55.62 yr wythnos
Oriau: 6 Awr yr wythnos am
1 flwyddyn gan ddechrau Ebrill 2019 – Mawrth 2020.
Goruchwylir gan: Cydlynydd Prosiect Bywydau Iach
Lleoliad: Wedi’i leoli yn Aberhonddu ond bydd teithio ledled Powys
Diben y Swydd:
Gweithio ochr yn ochr â staff y prosiect wrth iddynt redeg Prosiect Bywydau Iach o ddydd i ddydd.
Prif gyfrifoldebau:
• Cadw cwmni i staff ac aelodau wrth fynd am dros ac â gweithgareddau awyr agored
• Cefnogi aelodau mewn lleoliadau grwp dan do ac awyr agored
• Cynorthwyo’r staff wrth redeg gwaith grwp
• Cynorthwyo’r staff wrth ffilmio gweithgareddau grwp/ prosiect
• Cynorthwyo’r staff i gasglu adborth oddi wrth aelodau o’r grwp
• Cynorthwyo i redeg y swyddfa
• Gweithio â gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd ac eraill
• Mynychu goruchwyliaeth a gwneud defnydd da ohoni
• Ymgymryd â hyfforddiant a gweithio tuag at arwain rhai sesiynau
Er mwyn ymgeisio ar gyfer swydd y Cynorthwyydd Prosiect cysylltwch â:
Prosiect Bywydau Iach
11 LionYard
Aberhonddu
Powys LD3 7BA
E-bost: healthylivesproject@gmail.com
Ffôn: 07951 253703
Y dyddiad cau yw 8 Mawrth 12.00 canol dydd
Caiff Prosiect Bywydau Iach ei reoli gan Wasanaethau Eiriolaeth Annibynnol BCA
Cwmni Cyfyngedig drwy Warant: 6509168
Elusen Gofrestredig: 1123605
More stories